Yr Arglwydd Trefgarne
 Cadeirydd
 Pwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth
 Tŷ’r Arglwyddi
 SW1A 0PW
22 Mawrth 2019

Annwyl Arglwydd Trefgarne

Rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

Dymunwn dynnu eich sylw at reoliadau sydd i’w gwneud gan Weinidogion y DU o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru. Y mater sy’n codi gyda'r rheoliadau hyn yw bod anghytuno rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch ffiniau datganoli yng Nghymru.

Y rheoliadau hynny yw:

-        Rheoliadau Cymorth Gwladol (Amaethyddiaeth a Physgodfeydd) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 - lle mae anghytuno rhwng y ddwy lywodraeth ynghylch a yw cymorth gwladol wedi'i ddatganoli.

 

-        Rheoliadau Bwyd a Diod, Meddyginiaethau Milfeddygol a Gweddillion (Diwygiadau etc) (Ymadael â'r UE) 2019; Rheoliadau Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019 a Rheoliadau Bwyd a Ffermio (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019 - lle mae anghytundeb rhwng y ddwy lywodraeth o ran enwau bwyd gwarchodedig ac arwydd daearyddol bwyd mae cynlluniau wedi'u datganoli.

Yn yr achosion hyn, rydym yn deall bod Llywodraeth y DU wedi rhoi sicrwydd ysgrifenedig i Lywodraeth Cymru y bydd gan Lywodraeth Cymru rôl yn y gwaith o weithredu'r cynlluniau sy'n ymwneud â chymorth Gwladwriaethol ac arwydd daearyddol bwyd ac ati. Fodd bynnag, er ei bod yn ymddangos bod Llywodraeth y DU wedi rhoi sicrwydd o'r fath, a bod Llywodraeth Cymru wedi’i dderbyn, yn ddiffuant, nid ydym yn credu mai dyma yw’r ffordd y dylid datrys anghytundebau ynghylch ffiniau datganoli.

 

Mae’r ffaith bod anghytundebau o’r fath yn parhau hyd heddiw yn hynod siomedig o ystyried mai diben symud pwerau’r Cynulliad i fodel cadw pwerau oedd sicrhau eglurdeb o ran ffiniau datganoli yng Nghymru.

 

Yr eiddoch yn gywir,

Mick Antoniw

Cadeirydd

 

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.